SL(5)071 - Cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cefndir a Phwrpas

Cyhoeddir y cod ymarfer hwn o dan adran 145 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y "Ddeddf"). Rhaid i awdurdodau lleol, wrth arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, weithredu yn unol â'r gofynion a geir yn y cod hwn.

Gweithdrefn

Mae’r weithdrefn negyddol ddrafft a nodir yn adran 146 o’r Ddeddf yn darparu:

- na chaniateir i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ymarfer hwn nes i 40 o ddiwrnodau fynd heibio ers y dyddiad y gosodwyd y drafft gerbron y Cynulliad, ond

- na chaniateir i Weinidogion Cymru ei ddyroddi os bydd y Cynulliad, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, yn penderfynu na ddylai’r cod ymarfer gael ei ddyroddi.

Craffu dan Reol Sefydlog 21.7

Nid yw’r cod ymarfer yn offeryn statudol felly nid yw’r Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Mae’r Pwyllgor yn ystyried y cod ymarfer ac yn cyflwyno adroddiad arno o dan:

- Reol Sefydlog 21.7(i): fel is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Cynulliad;

- Rheol Sefydlog 21.7(v): fel mater deddfwriaethol cyffredinol ei natur sy’n ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad neu gymhwysedd Gweinidogion Cymru.

Pwyntiau adrodd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod ymarfer.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

8 Mawrth 2017